Polisi Preifatrwydd a Defnyddio Cwcis

Mae’r polisi hwn yn ymwneud â thrin gwybodaeth bersonol adnabyddadwy (PID) y mae Cyngor Cymuned Pont-y-clun yn ei chasglu pan fyddwch yn defnyddio’r wefan, pan fyddwch yn anfon e-bost atom, neu pan fyddwch yn llenwi ac yn cyflwyno ffurflen ar-lein drwy ein gwefan.

Mae’r Cyngor yn cadw ac yn prosesu data personol yn unol â’r holl ddeddfwriaeth gyfredol sy’n ymwneud â diogelu data ac yn cydymffurfio â deddfwriaeth Diogelu Data, a chaiff y trefniadau eu diweddaru yn unol â deddfwriaeth newydd.

Casglu a defnyddio gwybodaeth

Gallwch ymweld â’r safle a defnyddio llawer o’r gwasanaethau heb ddweud wrth y Cyngor pwy ydych chi na rhoi unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy i ni. Os byddwch yn gwneud cais am wybodaeth neu i ateb ymholiad, bydd y Cyngor yn cadw eich PID, ond dim ond cyhyd ag y bo angen ac i wella’r wefan.

Rhannu a datgelu gwybodaeth

Ni fydd y Cyngor yn gwerthu nac yn rhentu eich gwybodaeth bersonol adnabyddadwy i unrhyw un.

Bydd y Cyngor ond yn anfon gwybodaeth bersonol adnabyddadwy amdanoch i sefydliadau eraill ar ôl cael eich caniatâd neu os oes ganddo reswm cyfreithiol dros wneud hynny.

Cwcis

Mae’r Cyngor yn defnyddio cwci i’ch adnabod os ydych chi’n defnyddio neu’n dychwelyd i’r safle.

Dim ond pan fyddwch yn llenwi ffurflen sy’n gofyn am wybodaeth bersonol neu’n e-bostio’r Cyngor y gellir eich adnabod. Wrth lenwi unrhyw ffurflenni, efallai y gofynnir i chi am amrywiaeth o wybodaeth bersonol fel enw, cyfeiriad, cod post ac ati.

Gall y Cyngor ddefnyddio fideos o YouTube a ffrydiau o wefannau eraill fel Facebook a Twitter. Mae’r gwefannau hyn yn gosod cwcis ar eich dyfais wrth i chi wylio neu edrych ar y tudalennau hyn a gellir gweld eu polisïau ar y gwefannau eu hunain.

Gallwch atal cwcis rhag cael eu lawrlwytho ar eich cyfrifiadur neu ddyfais arall drwy ddewis y gosodiadau priodol ar eich porwr. Os byddwch yn gwneud hyn efallai na fyddwch yn gallu defnyddio’r wefan hon yn llawn. Mae mwy o wybodaeth am sut i ddileu neu stopio defnyddio cwcis ar AboutCookies.org.

Os byddwch yn gadael sylw ar ein gwefan, gallwch optio i mewn i gadw eich enw, eich cyfeiriad e-bost a’ch gwefan mewn cwcis. Mae hyn er hwylustod i chi fel nad oes rhaid i chi lenwi eich manylion eto pan fyddwch yn gadael sylw arall. Bydd y cwcis hyn yn para am flwyddyn.

Os byddwch yn ymweld â’n tudalen mewngofnodi, byddwn yn gosod cwci dros dro i bennu a yw eich porwr yn derbyn cwcis. Nid yw’r cwci hwn yn cynnwys unrhyw ddata personol ac mae’n cael ei waredu pan fyddwch yn cau eich porwr.

Pan fyddwch yn mewngofnodi, byddwn hefyd yn gosod sawl cwci i gadw eich gwybodaeth mewngofnodi a’ch dewisiadau sgrin. Mae cwcis mewngofnodi yn para am ddeuddydd, ac mae cwcis dewisiadau sgrin yn para am flwyddyn. Os byddwch yn dewis “Cofiwch Fi”, bydd eich manylion mewngofnodi’n cael eu cadw am bythefnos. Os byddwch yn allgofnodi o’ch cyfrif, bydd y cwcis mewngofnodi yn cael eu dileu.

Os byddwch yn golygu neu’n cyhoeddi erthygl, bydd cwci ychwanegol yn cael ei gadw yn eich porwr. Nid yw’r cwci hwn yn cynnwys unrhyw ddata personol ac mae’n dangos ID yr erthygl rydych newydd ei golygu. Mae’n dod i ben ar ôl 1 diwrnod.

Sylwadau

Pan fydd ymwelwyr yn gadael sylwadau ar y safle rydym yn casglu’r data a ddangosir yn y ffurflen sylwadau, yn ogystal â chyfeiriad IP yr ymwelydd a llinyn asiant defnyddiwr y porwr i helpu i ganfod sbam.

Gellid darparu llinyn dienw a grëwyd o’ch cyfeiriad e-bost (a elwir hefyd yn hash) i’r gwasanaeth Gravatar i weld a ydych yn ei ddefnyddio. Mae Polisi Preifatrwydd y gwasanaeth Gravatar ar gael yma: https://automattic.com/privacy/. Ar ôl cymeradwyo eich sylw, mae eich llun proffil yn weladwy i’r cyhoedd yng nghyd-destun eich sylw.

Cyfryngau

Os byddwch yn lanlwytho delweddau i’r wefan, dylech osgoi lanlwytho delweddau sy’n cynnwys data lleoliad wedi’i fewnosod (EXIF GPS). Gall ymwelwyr â’r wefan lawrlwytho ac echdynnu unrhyw ddata lleoliad o ddelweddau ar y wefan.

Ffurflenni cyswllt

Os byddwch yn llenwi un o’n ffurflenni, byddwch yn rhoi caniatâd yn awtomatig i ni gasglu a defnyddio eich data am y rheswm rydych wedi llenwi’r ffurflen ar ei gyfer.

Cynnwys wedi’i fewnosod o wefannau eraill

Gall erthyglau ar y wefan hon gynnwys cynnwys wedi’i fewnosod (e.e. fideos, delweddau, erthyglau, ac ati). Mae cynnwys sydd wedi’i fewnosod o wefannau eraill yn ymddwyn yn yr un ffordd yn union â phe bai’r ymwelydd wedi ymweld â’r wefan arall.

Gall y gwefannau hyn gasglu data amdanoch chi, defnyddio cwcis, mewnosod cwcis tracio trydydd parti ychwanegol, a monitro eich rhyngweithio â’r cynnwys hwnnw sydd wedi’i fewnosod, gan gynnwys tracio eich rhyngweithio â’r cynnwys sydd wedi’i fewnosod os oes gennych gyfrif a’ch bod wedi mewngofnodi i’r wefan honno.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data

Os byddwch yn gadael sylw, mae’r sylw a’i fetadata yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Mae hyn er mwyn i ni allu adnabod a chymeradwyo unrhyw sylwadau dilynol yn awtomatig yn hytrach na’u dal mewn ciw cymedroli.

Rhagor o wybodaeth

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein polisïau preifatrwydd drwy ddarllen yr atodiad isod

Hysbysiad preifatrwydd CCPLawrlwytho